P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Centre for Welsh Studies – Think Tank,ar ôl casglu 55 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Cofrestr Statudol
ar gyfer Lobïwyr yng Nghymru.
Mae'r ddeiseb hon yn dilyn camau a gymerwyd yn yr Alban ac Iwerddon
tuag at sicrhau bod lobïo gwleidyddol yn fwy agored.
Mae lobïo yn weithgaredd dilys a gwerthfawr. Mae'n rhan
hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall y geiriau lobïo a
lobïwr gael eu dehongli'n negyddol, gan awgrymu fod bargeinion
yn cael eu taro y tu ôl i ddrysau caeedig. Y gwir amdani yw
po fwyaf o leisiau sy'n ceisio llywio meddylfryd y Llywodraeth a'r
Cynulliad yng Nghymru, y mwyaf y bydd gwleidyddion yn cael gwybod
beth yw barn pobl wrth iddynt ddeddfu, datblygu polisïau
newydd a chyflawni gwaith craffu. Am y rheswm hwnnw, ac ar sail yr
egwyddor o fod yn agored ac yn hygyrch, sydd wrth wraidd y
Cynulliad, dylid mynd ati'n weithredol i annog lobïo. Mae'n
gadarnhaol pa mor agored, hygyrch a pharod i ymgysylltu yw'r
Cynulliad a'r Llywodraeth eisoes. Ni ddylid cymryd unrhyw gamau a
fyddai'n newid hynny neu'n achosi i bobl beidio â chysylltu
â gwleidyddion ynglŷn ag unrhyw fater.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dyffryn Clwyd
· Gogledd Cymru